Hanes y Gymraeg ym Mangor
Yn ôl cyfrifiad 2011, mae 35% o bobl Bangor yn siarad y Gymraeg. Ond sut ddaru ni gyrraedd y fan yma yn hanes yr iaith yn ein ddinas? A’i rhywbeth gymharol diweddar ydi’r newid o’r Gymraeg i’r Saesneg rydym wedi gweld a chlywed yn ystod y blynyddoedd diweddar? Neu oes yna rhesymau hanesyddol i esbonio sefyllfa’r iaith heddiw ‘ma?
Fel mae unrhyw un sydd yn gwybod Bangor yn dda yn deall, nid rhywbeth sydd wedi digwydd dros nos ydi’r sefyllfa ieithyddol bresennol. Ond rhywbeth sydd wedi bod yn digwydd am nifer o resymau ers tro. Yn wir, mor gynnar â’r 1800au cynnar, roedd Saesneg yr un statws â’r Gymraeg yn gwasanaethau’r eglwysi Anglicanaidd, tra roedd gwasanaethau yng ngweddill Gwynedd (fel y gymdeithas yn gyffredinol tu allan i’r trefi, mae’n debyg) yn uniaith Gymraeg. Er hynny, mae’n debyg roedd y gwasanaethau Cymraeg yn fwy poblogaidd na’r Saesneg yn 1850. Tu hwnt i grefydd, roedd Bangor yn un o’r canolfannau pwysicaf yng Nghymru o ran lansio papurau newydd Cymraeg yn y bedwaredd ganrif a’r bymtheg, hefo wyth papur newydd wedi’u lansio yn y ddinas (yn ail i Gaernarfon yn unig, ble lansiwyd 16 papur newydd yn yr un cyfnod). Yn ogystal, sefydlwyd Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor yn 1889.
Beth aeth o’i le felly? Ai’r ysgolion, gyda dyfodiad y Welsh Not (mae enghraifft i weld yn Storiel) ac addysg cyfrwng Saesneg gorfodol oedd ar bai? Pasiwyd Deddf Addysg 1870 21 o flynyddoedd cyn y cyfrifiad cyntaf i holi am gallu pobl Cymru i siarad y Gymraeg, Saesneg, neu’r ddwy iaith. Yn ôl cyfrifiad 1891, roedd 61% o bobl Dosbarth Cofrestru Bangor (oedd yn cynnwys ardaloedd cyfagos i’r ddinas hefyd) wedi nodi eu bod nhw’n siarad Cymraeg yn unig, hefo 29.3% yn siarad y ddwy iaith a 9.7% yn uniaith Saesneg. Rhaid bod yn wyliadwrus o’r ystadegyn ynglŷn â’r canran o siaradwyr uniaith Gymraeg. Efallai roedd rhai wedi cam-ddeall y cwestiwn ac wedi nodi’r iaith eu bod nhw’n defnyddio’n fwy aml, ac efallai eu bod nhw hefo rhyw gwybodaeth o’r Saesneg. Ac wrth gwrs, o gofio ymgyrch Cymru Fydd, efallai roedd rhai wedi cofnodi eu hunain fel siaradwyr uniaith Gymraeg fel brotest gwleidyddol.
Felly erbyn 1891 o leia, doedd y Welsh Not na addysg cyfrwng Saesneg heb gael cymaint a hynny o effaith ar y sefyllfa ieithyddol yn ardal Bangor. Wrth edrych ar arolwg iaith ysgolion sir Gaernarfon 1944, cyhoeddwyd Polisi Iaith gan Sir Gaernarfon yn 1904, ble dywedwyd roedd rhaid dysgu pob plentyn ifanc yn eu famiaith yn unig, cyn cyflwyno’r Saesneg neu’r Gymraeg iddynt yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol. Anfonwyd copi o’r bolisi i bob ysgol yn y sir, ond nid oes unrhyw tystiolaeth faint o ysgolion Bangor oedd wedi dilyn y bolisi. Yn 1927, rhoddwyd fwy o bwyslais ar y Gymraeg fel cyfrwng i ddysgu pynciau diwylliannol. Saith mlynedd yn diweddarach, nodwyd eto nad oedd rhaid dysgu ail iaith i’r plant ifancach nes eu bod wedi dysgu siarad, darllen ac ysgrifennu’r iaith gyntaf yn drwyadl. Adeg cyhoeddi’r adroddiad yn 1944, roedd mwyafrif disgyblion Friars (56.4%) a’r Ysgol Sir (62.1%) o gartrefi Cymraeg. Ond wrth sbïo ar ysgolion gynradd a babanod Bangor, mae’r canrannau yn amrywio o 91.5% o blant o gartrefi Cymraeg ar gyfer Ysgol Garth lawr at 40.9% o ddisgyblion Iau Ysgol Bangor Uchaf (38.2% ar gyfer ysgol babanod yr ardal honno).
A oedd ysgolion Bangor yn weithredu polisi iaith y cyngor yn drwyadl? Ac os oeddynt felly, pa reswm arall oedd yna ar gyfer cwymp mor sylweddol mewn ardaloedd benodol yn canran plant Bangor oedd yn cael eu magu ar aelwydydd Cymraeg? Mewnlifiad o myfyrwyr a staff y brifysgol i Fangor Uchaf hefo’u teuluoedd? Allfudo yn ystod Dirwasgiad Mawr y 1930au? Argraff rhwng y rhyfeloedd byd mai Saesneg oedd yr iaith gorau er mwyn sicrhau lwyddiant yn y byd? Beth bynnag y rheswm, mae un peth yn sicr, rydym wedi gweld cwymp cyson y nefnydd y Gymraeg ym Mangor.
Serch hynny, mae yna pethau ym Mangor sydd ganddom sydd yn gweithio o blaid y Gymraeg. Erbyn hyn, mae gan Cyngor Gwynedd bolisi cynhwysfawr i sicrhau bod holl blant dinas Bangor hefo’r cyfle i fod yn gytbwys ddwyieithog, erbyn iddynt gadael yr ysgol. Yn wir, bu cynydd o 5.1% yn nifer plant Bangor hefo’r gallu i siarad y Gymraeg rhwng 2001 a 2011. Mae’r Fenter yn gobeithio cydweithio ag eraill i godi’r ffigwr yna yn uwch eto.
Yn ddilyn traddodiad newyddiadurol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bydd papur bro’r Goriad yn gwasanaethu Bangor a’r Felinheli ers 42 o flynyddoedd erbyn mis Hydref 2022. Cynhaliwyd Yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor 5 o weithiau i gyd rhwng 1890 a 1971.
Mae nifer o sefydliadau Bangor ble mae rhywun yn gallu bod yn sicr o dderbyn gwasanaeth Cymraeg, megis llyfrgell y ddinas, Storiel (amgueddfa ac oriel gelf Gwynedd), tafarn y Glôb a chanolfan Pontio.
Gobaith Menter Iaith Bangor, hefo cefnogaeth y gymuned, yw i helpu atal dirywiad pellach ac i hybu’r defnydd cymdeithasol, naturiol o’r Gymraeg ym Mangor, y ddinas fwyaf Cymraeg yng Nghymru a’r byd i gyd. Dewch hefo ni ar y daith!