Ffactoids Bangor
- Sefydlwyd eglwys/mynachlog ar safle Cadeirlan Bangor 525AD. Un o’r safleoedd Cristnogol hynaf ar Ynysoedd Prydain.
- Amgylchynwyd y fynachlog gan fath arbennig o ffens wedi ei wneud o bostion a changhennau wedi eu plethu. Enw’r math yma o ffens? Bangor.
- Mae Pier Y Garth yn cael ei gydnabod fel pier Fictorianaidd gorau Cymru, ac un o’r pump gorau ym Mhrydain.
- Yn ôl y llyfrau aeth Bridget Jones i Brifysgol Bangor.
- Ar y 5 o Fedi 1962 enillodd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor o ddau gol i ddim yn erbyn y byd enwog Napoli.
- Stryd Fawr Bangor yw’r hiraf yng Nghymru.
- Mae yna o leiaf 5 Bangor yn y byd – ond un ni ydi’r gorau!
- Bangor, Maine, UDA
- Bangor, Wisconsin, UDA
- Bangor, Gogledd Iwerddon
- Bangor, Belle Ilse, Ffrainc